Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-11-14
CLA388 - Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2014
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (sy'n trosi'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig (Cyfarwyddeb 2008/98/EC)) mewn perthynas â chofrestru cludwyr, broceriaid a gwerthwyr gwastraff a'r ddogfennaeth i'w chwblhau pan gaiff gwastraff ei drosglwyddo.
Nod y rheoliadau yw rhoi mwy o hyblygrwydd i fusnesau o ran y ddogfennaeth a ddefnyddir i ddisgrifio'r gwastraff sy'n cael ei drosglwyddo. Maent hefyd yn diwygio'r rhestr o droseddau perthnasol y mae rheoleiddwyr yn eu hystyried wrth drafod cais i gofrestru cludwr.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau hyn ar sail gyfansawdd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ar sail y ffaith yr ystyrir bod dull gweithredu cyson yng Nghymru a Lloegr yn fuddiol i fusnesau yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n gweithredu ar sail draws-ffiniol.
Gweithdrefn: Negyddol
1. Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Gan mai Gorchymyn Cyfansawdd yw hwn, dim ond yn Saesneg y mae wedi'i wneud.
[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.]
2. Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mawrth 2014